#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Hydref 2017
 Petitions Committee | 9 October 2017
 
 
 ,Deiseb: Gwella Gwasanaethau Rheilffordd i Gas-gwent  

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-833

Teitl y ddeiseb: Gwella'r Gwasanaethau Rheilffyrdd i Gas-gwent

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y cytundeb masnachfraint ar gyfer gweithredwr newydd Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i Gas-gwent.  Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd Cross Country yn rhoi'r gorau i redeg trenau o Gas-gwent.  Mae'r bwriad i redeg dim ond un trên yr awr i dref o faint a phwysigrwydd Cas-gwent - pen pellaf y rheilffordd yn Nyffryn Gwy - yn wael dros ben, o'i gymharu â'r gwasanaeth yn nhrefi eraill ein sir a rheilffyrdd y cymoedd. Dylid darparu dau drên bob awr o leiaf. Rydym yn cydnabod bod angen annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'u ceir er mwyn helpu'r amgylchedd. Mae'r gwaith o wella gwasanaethau trên yn gam tuag at hyn.

Anfonwyd sylwadau'n tynnu sylw at hyn cyn dyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau. Ymddengys bod y sylwadau hyn wedi'u diystyru.  

Y cefndir

Masnachfraint Rheilffordd

Caiff gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr eu gweithredu yn y DU drwy gytundebau masnachfraint. Cafodd gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr eu preifateiddio yn y DU yn dilyn  Deddf Rheilffyrdd 1993 . Rhannwyd gwasanaethau i deithwyr yn nifer o fasnachfreintiau a’u dyfarnu i Gwmnïau Gweithredu Trenau preifat.  

Mae nifer o fasnachfreintiau sy’n gwasanaethu Cymru ac felly mae nifer o Gwmnïau’n Gweithredu Trenau yn gweithredu yng Nghymru.

O ganlyniad i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rheilffyrdd) 2018 cafodd y cyfrifoldeb dros gaffael masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau ei ddatganoli i Weinidogion Cymru. Mae Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn cadw'r cyfrifoldeb dros fasnachfraint rheilffyrdd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys masnachfraint Cross Country. Mae Llywodraeth y DU yn cadw’t cyfrifoldeb dros seilwaith rheilffyrdd Cymru.

Gorsaf a Gwasanaethau Cas-gwent

Mae'r gwasanaethau sy'n stopio yng ngorsaf Cas-gwent wedi'u cynnwys ym masnachfraint Cymru a'r Gororau a masnachfraint Cross Country.

Yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael gan Office of Rail and Road sy’n  amcangyfrif faint o ddefnydd a wneir o orsafoedd', cofnodwyd 251,824 o deithiau allan o/i mewn i orsaf Cas-gwent 2016-17. Mae hyn ychydig yn uwch na’r ffigur ar gyfer 2015-16,  sef 246,742.

Masnachfraint Cymru a’r Gororau

Yng Nghymru, bydd masnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau, sy’n cael ei gweithredu gan  gwmni Trenau Arriva Cymru, yn dod i ben ar 13 Hydref 2018. Bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau ar 14 Hydref 2018.

Yn 2015, sefydlodd Llywodraeth Cymru gwmni Trafnidiaeth Cymru (TfW), sef cwmni dielw sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Trafnidiaeth Cymru oedd yn gyfrifol am y broses gaffael mewn perthynas â’r fasnachfraint nesaf, ynghyd â gwasanaethau rheilffyrdd De Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.

Aeth Llywodraeth Cymru ati i gaffael yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel Partner Gweithredu a Datblygu (y Partner). Disgwylir i'r Partner weithredu gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru, a hefyd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd Metro De Cymru, a’u gweithredu wedyn.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 4 Mehefin 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mai KeolisAmey oedd y Partner Gweithredu a Datblygu ar gyfer y fasnachfraint newydd.

Yn ei ddatganiad, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet rywfaint o wybodaeth am gynnwys y cytundeb masnachfraint newydd ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o'r wybodaeth  ar eu gwefan.

Mewn perthynas â gwasanaethau i / o Gas-gwent, mae'r wybodaeth gryno yn nodi bod y cytundeb masnachfraint newydd yn cynnwys rhedeg trên bob awr rhwng Cas-gwent a Chaerdydd erbyn Rhagfyr 2022.

Hefyd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fuddsoddiad o £194m i foderneiddio pob un o'r 247 o orsafoedd yng Nghymru.

Nodwyd y bydd nifer o orsafoedd, gan gynnwys gorsaf Cas-gwent, yn manteisio ar fuddsoddiad ychwanegol i’r datblygu fel ‘cynlluniau arloesol’.

Masnachfraint Cross Country

Bydd masnachfraint bresennol Cross Country yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019, ac ym mis Gorffennaf 2018, lansiodd Adran Drafnidiaeth y DU ymgynghoriad er mwyn datblygu manyleb tendr y fasnachfraint. Roedd y ddogfen hon yn cynnwys 'syniadau ar gyfer y fasnachfraint nesaf'. Amlinellodd hefyd y gwasanaethau roedd y fasnachfraint bresennol yn eu darparu ar gyfer pob gorsaf.

Mewn perthynas â gwasanaethau arferol i’r ddau gyfeiriad yn ystod yn ystod oriau allfrig rhwng dydd Llun a dydd Gwener dros fisoedd y gaeaf,  nodir bod gwasanaeth bob dwy awr yng ngorsaf Cas-gwent.

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth hefyd ddogfen cyn-gymhwyso a dogfen mynegi diddordeb   i ddarpar ymgeiswyr.

Fodd bynnag, ar 20 Medi 2018, lansiodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, adolygiad i:

transform Britain’s railways… the review — the most significant since privatisation — will consider ambitious recommendations for reform.

Yng ngoleuni'r adolygiad hwn, cyhoeddwyd hefyd:

due to the unique geographic nature of the Cross Country franchise, which runs from Aberdeen to Penzance and cuts across multiple parts of the railway, awarding this franchise in 2019 could impact on the review’s conclusions. It has therefore been decided that this competition will not proceed.

Services will continue to be operated by the existing franchisee with options beyond this to be considered in due course [Emphasis added by Research Service]. The department will consider the responses to the Cross Country public consultation in the development of future options for the franchise.

 

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn 2017, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau a'r cam nesaf yn y gwaith o ddatblygu seilwaith Metro De Cymru. Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, sef 'Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru'(PDF, 1.39MB). Yn ôl yr adroddiad, yn ystod yr ymchwiliad:

pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen i ... gynyddu amlder gwasanaeth Caerdydd - Casgwent.

Yn ei ddatganiad ar 4 Mehefin 2018, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrth ddyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau.

Wrth gynnal ei ymchwiliad yn 2017, adeiladodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y gwaith a wnaed gan Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad ar ddyfodol Masnachfraint Cymru a'r Gororau. Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes, cyflwynwyd tystiolaeth gan Severn Tunnel Junction Rail Action Group (PDF, 132KB) yn galw am wasanaeth bob hanner awr yng ngorsaf Cas-gwent fel rhan o'r fasnachfraint newydd.

Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

O fis Rhagfyr 2022 ymlaen, bydd nifer y trenau sy’n rhedeg yn ystod oriau allfrig rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn yn cynyddu o ddau drên bob tair awr i un trên bob awr rhwng Canol Caerdydd a Chas-gwent ... o fis Rhagfyr 2023 bydd nifer y trenau’n cynyddu hefyd ... ar ddydd Sul o 0.5 trên i 1 trên yr awr.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn amlinellu yn ei lythyr y bydd trenau’n cludo mwy o deithwyr yn ystod oriau brig y bore yn dilyn newidiadau i’r cerbydau o dan masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau.

Mewn perthynas â masnachfreintiau eraill sy'n gweithredu gwasanaethau yng Nghymru, gan gynnwys Cross Country, ar 17 Gorffennaf 2018 gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn am ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd eraill sy'n gwasanaethu Cymru a buddsoddiad  yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Yn y datganiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet

Yn dilyn trosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru, mae cytundeb cydweithredu a chydweithio ar waith yn awr gyda'r Adran Drafnidiaeth. Mae'r cytundeb hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n weithredol wrth gaffael a datblygu masnachfreintiau sy'n gweithredu gwasanaethau ar draws y ffin mewn modd sy'n rhoi ystyriaeth lawn i fuddiannau ac atebolrwydd y ddwy Lywodraeth. Mae hwn yn gyfnod pwysig i'r gwasanaethau hynny ac yn gyfle i gyflwyno gwelliannau sy'n diwallu anghenion teithwyr ar ddwy ochr y ffin. Mae contract gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn darparu cysylltedd trawsffiniol pwysig. Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw'r gwasanaethau hyn. Mae'r Adran Drafnidiaeth ar hyn o bryd yn mynd drwy ei phrosesau ei hun ar gyfer dyfarnu contractau newydd ar gyfer masnachfreintiau Arfordir y Gorllewin, Cross Country a Great Western. Dwi wedi gwneud fy nisgwyliadau ar gyfer y masnachfreintiau hyn yn glir i'r Ysgrifennydd Gwladol

Mewn perthynas â masnachfraint Cross Country, yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywed Ysgrifennydd y Cabinet:

mae swyddogion wedi gofyn i'r Adran Drafnidiaeth wella gwasanaethau i deithwyr ym mhob gorsaf yng Nghymru ... maent wedi datgan na ddylid lleihau nifer y trenau sy’n galw yng ngorsafoedd Cymru ar hyd y coridor rhwng Caerdydd a Birmingham – a hefyd - dylai mwy o drenau stopio yng Nghas-gwent.